Fydd e`n teithio i Ffrainc? Will he travel to France? Faint o fyfyrwyr fydd yn y dosbarth? How many students will be in the class? Bydd angen i mi fynd at y meddyg yfory. I will need to go to the doctor tomorrow. Bydd Dewi yn mynd i brifysgol yn yr hydref. Dewi will go to university in the autumn. Bydd y trên o Abertawe yn cyrraedd yn fuan. The train from Swansea will arrive soon. Fe ddechreuiff y band chwarae pan fydd y maer yn cyrraedd. The band will start playing when the mayor arrives. A wnewch chi gerdded ar draws y cae neu ar hyd y ffordd? Will you walk across the field or along the road? A fyddant yn cwympo`r hen goeden wrth y tŷ? Will they fell the old tree by the house? Os byddwch chi’n ffonio yfory, byddaf yn rhoi’r wybodaeth i chi. If you phone tomorrow, I will give you the information. Bydd y trydanwr yma cyn bo hir a bydd e`n atgyweirio`r peiriant. The electrician will be here soon and he will repair the machine. Byddant yn colli eu swyddi pan fydd y ffatri`n cau y flwyddyn nesaf. They will lose their jobs when the factory closes next year. Y tro nesaf y byddwch chi`n gweld Mr Jones, a wnewch chi ofyn iddo am y ffenestr wedi torri? The next time you see Mr Jones, will you ask him about the broken window? A fydd penllanw pan gyrhaeddwn yr arfordir? Will it be high tide when we arrive at the coast? Bydd y tocynnau`n ddrytach na`r llynedd. The tickets will be more expensive than last year. Dydw i ddim yn hoffi`r rhain. Mae`r rheiny`n well. I don`t like these. Those are better. Bydd gwartheg yn y cae felly bydd yn rhaid i chi gymryd gofal. There will be cattle in the field so you will have to take care. Bydd y goeden dderw yno o hyd mewn hanner can mlynedd. The oak tree will still be there in fifty years. Dywedodd ei fam y bydd e adref am saith o`r gloch. His mother said that he will be home at seven o`clock. A fyddant yn prynu`r hen ffermdy yn Bordeaux? Will they buy the old farmhouse in Bordeaux? Fe awn ni yno yn ystod y drydedd wythnos ym mis Awst. We will go there during the third week in August. |